Mae athrawes gelf a gafodd ei diswyddo ar ôl i’r ysgol lle’r oedd hi’n gweithio ddarganfod ei bod hi’n feichiog, wedi derbyn iawndal o £33,900.

Cafodd Rebecca Raven ei diswyddo o Ysgol Howell’s yn Ninbych ychydig ddiwrnodau ar ôl rhoi gwybod i’r ysgol.

Gofynnodd hi am gyfnod mamolaeth ym mis Mai 2011, ond cafodd wybod y byddai’n colli ei swydd ar ddiwedd y flwyddyn.

Cafodd wybod y gallai wneud cais am swydd ran-amser yn yr ysgol, ond nid oedd yn llwyddiannus.

Apeliodd hi yn erbyn y penderfyniad ond cafodd ei hanwybyddu gan yr ysgol.

Dywedodd tribiwnlys ym mis Mai ei bod hi wedi cael ei diswyddo’n annheg yn ôl Deddf Hawliau Cyflogaeth a bod yr ysgol wedi gwahaniaethu yn ei herbyn yn ôl y Ddeddf Gydraddoldeb.

Cyhoeddodd y Gymdeithas Athrawon a Darlithwyr heddiw fod Rebecca Raven wedi derbyn swm o £33,923.37.