Mae dau berson wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad rhwng tri char a sgwter neithiwr.

Digwyddodd y ddamwain ar ffordd yr A547 rhwng Rhuddlan ac Abergele.

Aed â gyrrwr y sgwter a gyrrwr un o’r ceir i’r ysbyty.

Dydy eu bywydau ddim mewn perygl, er bod anafiadau un yn ddifrifol.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am dystion, a dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101.