Mae nifer y diwaith yng Nghymru wedi cynyddu o 1,000 i 132,000, yn ôl ffigurau swyddogol, tra bod nifer y di-waith yn y DU wedi gostwng 7,000 rhwng mis Mai a Gorffennaf i 2.59 miliwn.
Bu gostyngiad o 15,000 yn nifer y rhai sy’n hawlio budd-dal diweithdra i 1.57 miliwn, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Roedd cyflogau wedi cynyddu 1.5% yn y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf, 0.3% yn is na’r mis blaenorol.
Credir bod y Gemau Olympaidd wedi helpu i ostwng nifer y diwaith yn y DU.
Mae nifer y bobl mewn swyddi wedi cynyddu 236,000 i 29.6 miliwn, y cynnydd chwarterol mwyaf ers dwy flynedd.
Mae’r rhai sy’n gweithio rhan amser am nad ydyn nhw’n gallu dod o hyd i waith llawn amser wedi cynyddu i 1.42 miliwn.