Ifor ap Glyn
Nos Sul yma ar S4C, bydd rhaglen yn cynnig y cofnod mwyaf cynhwysfawr erioed o brofiadau’r Cymry Cymraeg yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn y gyfres saith bennod, fe fydd Lleisiau’r Ail Ryfel Byd yn rhoi sylw i gyfnod dyrys i Gymru a’r byd, wrth i filwyr a sifiliaid o Gymru ddweud hanesion nhw o’u profiad rhwng 1939 a 1945.

Bydd yna brofiadau dros 50 o ddynion a menywod sydd bellach yn eu hwythdegau a’u nawdegau.

Yn filwyr ar feysydd y gad ledled y byd, yn aelodau o’r Home Guard, yn weithwyr yn y Weinyddiaeth, yn ffermwyr neu’n land girls, yn siopwyr a gweithwyr ffatri, yn wragedd tŷ, yn blant o Gymru neu’n ifaciwis, cawn hanes y rhyfel trwy eu geiriau gonest nhw.

Y cynhyrchydd a’r bardd Ifor ap Glyn sy’n cyflwyno’r gyfres, fydd yn tywys y gwylwyr flwyddyn ar y tro, o adeg cyhoeddi’r rhyfel ym mis Medi 1939 i ddiwedd y rhyfel yn Ewrop ym Mai 1945.

“Roedd yn brofiad emosiynol i lawer o’r cyfranwyr i gael dweud eu straeon, ac roedd hi’n fraint cael ein gwahodd i’w cartrefi nhw,” meddai Ifor ap Glyn.

“Roeddan nhw’n bobol mor ddiymhongar ac yn paentio darlun byw iawn o fywyd y cyfnod.

“Bydd y cyfweliadau hyn yn archif werthfawr at y dyfodol a chofnod pwysig o gyfnod yn ein hanes.”

Mae’r rhaglen gyntaf am 1939  yn dilyn y paratoadau ar gyfer amddiffyn y wlad, pan symudwyd miloedd o blant yn ifaciwis o’r dinasoedd i gefn gwlad, pan gafodd gas masks eu cyflwyno, y cyfnod cyn i’r  ‘phoney war’ droi yn rhyfela go iawn.

Nos Sul 16 Medi, 9.00pm