Alys
Yn dilyn cyhoeddi’r arlwy dros yr hydref ddoe, mae un sy’n cadw llygad craff ar y teledu wedi dweud wrth Golwg 360 nad oes “dim byd trawiadol o newydd” ynglŷn a’r arlwy.
“Ar yr olwg gynta’, does dim byd trawiadol o newydd a gwahanol i’r arlwy arferol, gyda’r hen-hen stejars saff fel Dai Jones a Pobol y Cwm yn cael eu hyrwyddo ochr yn ochr a chyfresi comedi heriol Dim Byd a Ddoe am Ddeg,” meddai Dylan Wyn Williams, sy’n golofnydd teledu i gylchgrawn Golwg, ac sy’n cyfrannu’n gyson ar ei flog ei hun.
“Mae’ yna groeso mawr i gyfres lawn o Gwlad yr Astra Gwyn, ond tydi gornest goginio ddim at fy nant i o gwbl – mae yna ormod o’r rheini’n y Saesneg heb orfod diodde ailbobiad ohonyn nhw’n Gymraeg.
Byddai’n hoffi gweld cyfres ddrama arall ganol wythnos, meddai wrth Golwg 360, yn ogystal ag Alys.
“Ond o gofio pa mor ddrud ydy’r cyfrwng, dylwn i fod yn ddiolchgar am un o leiaf. Mae’r ochr ddogfennol i’w weld yn arbennig o gryf, gyda sawl cyfres newydd o’r Ail Ryfel Byd i drefnwyr angladdau a chodwr pwysau.
“Ond lle mae cyfresi cerddoriaeth fodern – boed gwerin, roc neu phop – fel Bandit ers talwm?”
Wrth i S4C ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed, dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys y sianel, ddoe ei fod yn bwysig i fod yn “flaenllaw”.
“Mae’n gyfnod pwysig yn hanes y Sianel wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed ac mae’n addas felly bod rhaglenni i ddathlu yn flaenllaw yn yr amserlen,” meddai.
“Dyheadau’r gwylwyr sydd bwysicaf wrth ystyried cynnwys ein gwasanaeth o ddydd i ddydd, o fis i fis ac o flwyddyn i flwyddyn.”
Llinos Dafydd