Mae tîm o guraduron, gwirfoddolwyr ac archifyddion wedi bod wrthi’n cydweithio yn Aberystwyth ac Ironbridge i baratoi arddangosfa newydd o waith yr arlunydd Falcon Hildred, sy’n byw ym Mlaenau Ffestiniog.
Bydd hi’n agor yn Oriel Coalbrookdale, ger Enginuity, ar 5 Hydref 2012 ac yn rhedeg tan 30 Ebrill 2013.
Bydd dros 600 o luniadau gwreiddiol a lluniau dyfrlliw o adeiladau diwydiannol a thirweddau gan yr arlunydd ar gael i’w gweld.
“Credwn fod Ironbridge, sy’n enwog yn rhyngwladol am fod yn Fan Geni Diwydiant, yn lle gwbl briodol i arddangos y gweithiau hardd a hyfryd hyn sy’n dogfennu gorffennol diwydiannol Cymru a Lloegr mor ffordd mor fyw,” meddai Dr Matt Thompson, Uwch-Guradur Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ironbridge Gorge.
Mae Falcon Hildred yn arlunydd sydd wedi neulltio oes o waith i gofnodi adeiladau a thirweddau diwydiant y bedwaredd ganrif a’r bymtheg a’r ugeinfed ganrif.
Drwy gofnodi manylion newidiadau technolegol a pheirianyddol a ffordd o fyw sy’n prysur ddiflannu.
Mae’r lluniau’n cofnodi Blaenau Ffestiniog (cartref yr arlunydd oddi ar 1969 a man y mae ef wedi cofnodi llawer iawn arno) ynghyd ag amryw o drefi diwydiannol yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe yn ogystal â Grimsby, Coventry, Llundain a Birmingham.
“Mae gwaith oes Falcon Hildred yn gofnod unigryw o ddiwylliant y dosbarth gweithiol ac o dirweddau diwydiannol,” meddai Dr Peter Wakelin, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol.
“Mae’r casgliad yn adnodd gwych i’r sawl sy’n ymddiddori yn y dreftadaeth honno gan fod llawer ohoni wedi diflannu ers i Falcon ei dogfennu.
“Bydd yr arddangosfa gyntaf hon a’r llyfr sy’n cyd-fynd â hi yn tynnu sylw llawer o bobl at ei waith a’r hanes eithriadol o ddifyr y mae’n ei gynrychioli.”