Daeth nifer o sêr y byd pop Cymraeg ynghyd nos Sadwrn ddiwethaf (8 Medi) yn y brif ddinas i ddathlu blwyddyn gron ers sefydlu Stafell Fyw Caerdydd, elusen sy’n cynnig arweiniad i bobol orchfygu eu dibyniaethau ac ail-gydio mewn gobaith bywyd.
Cafwyd perfformiadau gan Bryn Fôn a’i Fand, Elin Fflur, Brigyn a Delwyn Siôn. Ac am y tro cyntaf ers eu dyddiau ar y teledu yn y 70au, cafwyd ymddangosiad arbennig gan Syr Wynff ap Concord y Bos a Plwmsan.
“Asgob a raslas bob yn ail!,” meddai Syr Wynff.
“Wnes inna, Syr Wynff ap Concord y Bos, drefnu hefo’r Mêtron fod Plwmsan yn cael ei ryddhau o’i gartra hen bobl, hefo nyrs, wrth gwrs, i ofalu nad yw’r beipen bi pî yn tanglo, i berfformio am un noson yn unig i’r tsiwcs.
“Dyna oedd cyfle perffaith i finna roi slepjan ola i’r Twmffat Twpach na Thwp.”
Cynnig gobaith am adferiad
Mae Wynford Ellis Owen, crëwr Syr Wynff, bellach yn brif weithredwr Stafell Fyw Caerdydd. Mae’n gweithio gyda thîm ymroddedig i helpu a chynnig gobaith am adferiad i bobol sydd â phroblemau yn ymwneud ag alcohol, cyffuriau neu unrhyw ymddygiadau niweidiol eraill.
“Mawr yw fy niolch i’r holl artistiaid sydd wedi perfformio yn rhad ac am ddim yn ein cyngerdd arbennig i ddathlu pen-blwydd cyntaf y Stafell Fyw,” meddai Wynford Ellis Owen.
“Diolch arbennig i Mici Plwm am gael gafael ar yr hen Blwmsan ac am fod mor barod i dderbyn slepjan unwaith yn rhagor.
“Mae wedi bod yn flwyddyn llwyddiannus i’r Stafell Fyw wrth i ni geisio gwella hinsawdd bywyd i rai o bobol mwya anghenus ein cymdeithas.
“Mae dibyniaeth yn hyll ac yn chwalu bywydau gormod o bobl. Yma yn y Stafell Fyw rydyn eisiau dangos fod adferiad yn bosib ac o fewn gafael. Rydym yma i helpu unigolion a’u teuluoedd agor y drws i fywyd newydd.”