Mae aelodau Uno’r Undeb sy’n gweithio i Wasg Gomer wedi cytuno i ohirio’r streic a oedd wedi cael ei threfnu ar ddydd Mercher.
Roedd y penderfyniad i ohirio streic yn ddibynnol ar sawl amod, gan gynnwys sicrwydd na fyddai’r gweithwyr yn colli cyflog am y diwrnodau eraill y buon nhw’n streicio eisoes.
Mae Gwasg Gomer wedi derbyn y bydd y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Dyfarnu (ACAS) yn ymchwilio i honiadau fod yna ddiwylliant o fwlio ac aflonyddu ar staff sy’n aelodau o undebau.
Mae’r gweithwyr hefyd wedi gofyn am godiad cyflog o 2% yn 2012.
Dywedodd swyddog rhanbarthol Uno’r Undeb, David Lewis: “Yn gyntaf, rhaid i mi dalu teyrnged i’n haelodau yng Ngwasg Gomer am eu dewrder a’u cryfder mewn sefyll yn gadarn gyda’i gilydd dros yr hyn sy’n iawn, a hynny yn wyneb her sylweddol.
“Rydym yn gobeithio y bydd y cytundeb hwn yn gam tuag at newid gwirioneddol yng Ngwasg Gomer, a bod atal gweithredu diwydiannol yn sylfaen i ddatrysiad mwy parhaol yn y dyfodol.”