Aneirin Hughes fel Gwynfor
Mae mis Tachwedd 2012 yn garreg filltir bwysig yn hanes darlledu yn yr iaith Gymraeg wrth i S4C ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed.

Heddiw, maen nhw wedi cyhoeddi’r arlwy ar gyfer yr hydref.

Un o’r rhaglenni yw drama ddogfen am benderfyniad yr arweinydd gwleidyddol a’r cenedlaetholwr Gwynfor Evans i fygwth ymprydio hyd farwolaeth yn yr ymgyrch dros sianel Gymraeg.

Mae Gwynfor, a ysgrifennwyd gan yr Archdderwydd T James Jones, yn ail-greu blwyddyn dyngedfennol ym mywyd Gwynfor Evans, gyda’r actor Aneirin Hughes yn portreadu Gwynfor.

“Mae’n bortread cynnes, sensitif o ddyn dewr a wnaeth benderfyniad ysgytwol a allai fod wedi arwain at ei farwolaeth,” meddai’r cynhyrchydd Lona Llewelyn Davies.

“Mae’r ddrama ddogfen wedi seilio’n gadarn ar hanes ond mae hefyd yn caniatáu i ddychymyg yr awdur T James Jones dwrio i psyche Gwynfor Evans ar y pryd.”

Ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan mae aelodau amlwg o Blaid Cymru ar y pryd, yr Arglwydd Dafydd Wigley a Peter Hughes Griffiths, y sylwebydd cyfryngau, Euryn Ogwen, cyn brif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Emyr Jenkins, mab Gwynfor Evans, Guto Prys ap Gwynfor, ei ferch Meinir Ffransis, a’i gŵr hithau, yr ymgyrchydd iaith blaenllaw Ffred Ffransis.

Dathlu a chofio

Mae’r sioe S4C yn 30 yn rhaglen arall sy’n gasgliad o atgofion y gwylwyr a chlipiau o’r archif sy’n cael ei chyflwyno gan Siân Thomas, un o gyflwynwyr y noson gyntaf yn 1982.

Bydd Plant y Sianel hefyd yn dychwelyd gyda rhaglen arbennig yn rhoi hanes cenhedlaeth o Gymry gafodd eu geni 30 mlynedd yn ôl, yr un pryd ag S4C.

“Dwi’n hynod falch o gael cyhoeddi ein hamserlen ar gyfer yr hydref,” meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C.

“Mae’n gyfnod pwysig yn hanes y Sianel wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed ac mae’n addas felly bod rhaglenni i ddathlu yn flaenllaw yn yr amserlen.

“Dyheadau’r gwylwyr sydd bwysicaf wrth ystyried cynnwys ein gwasanaeth o ddydd i ddydd, o fis i fis ac o flwyddyn i flwyddyn.

“Mae addasu ein gwasanaeth a’n rhaglenni mewn ymateb i ddymuniadau ein gwylwyr yn broses barhaol ac mae’r amserlen sy’n cael ei chyhoeddi heddiw yn rhan o’r broses honno wrth i ni ymdrechu i gynnig rhywbeth i bawb.”

Richard Harrington yn actio yn Alys

Mae Alys yn ei hôl – ac mae bywyd yr un mor gymhleth ag erioed i’r fam sengl hon, sy’n cael ei chwarae gan Sara Gregory, wrth iddi geisio sicrhau bywyd gwell i’w mab, Daniel.

Daw sawl cymeriad newydd i’w bywyd. Mae Phil newydd gael ei ryddhau o’r carchar, ac mae’n cael ei chwarae gan Gareth Jewell (Baker Boys, The Indian Doctor). Gwerthwr a datblygwr tai yw Simon sy’n cael ei chwarae gan Richard Harrington (Pen Talar, Bleak House, Lark Rise to Candleford). Mae Alys hefyd wedi symud o’i fflat siabi i dŷ cyngor. Mae bywyd i’w weld ar i fyny iddi.

“Unwaith eto, mae’r awdur Siwan Jones yn arbrofi yn y gyfres hon,” meddai cynhyrchydd Alys, Paul Jones.

“Aeth y gyfres gyntaf ati’n raddol i ddadorchuddio’r haenau gwahanol sy’n bodoli oddi fewn ein cymdeithas.

“Mae’r ail gyfres hon yn fwy o thriller, gydag elfen iasoer gref yn perthyn iddi. Mi fydd y gynulleidfa yn sicr yn anesmwytho wrth ei gwylio.”

Ymhlith yr adloniant, bydd Fferm Ffactor yn ôl eto, ynghyd â chyfres newydd Brwydr y Fwydlen, lle bydd cogyddion amatur yn wynebu her bob rhaglen.

Bydd yr hen ffefrynnau yn ôl hefyd, fel y Noson Lawen a Sioe Tudur Owen, yn ogystal â nifer o gyfresi eraill.