Wrth i gôr Eisteddfod Sir Ddinbych a’r Cyffuniau ail-gychwyn ar ôl gwyliau’r haf, cyhoeddwyd heddiw mai’r Meseia gan Handel fydd y gwaith a berfformir ganddyn nhw yn yr Eisteddfod y flwyddyn nesa’.
“Mae golygon pawb wedi troi at Sir Ddinbych a’r Cyffiniau erbyn hyn, ac mae’n braf cyhoeddi manylion y gwaith a fydd yn cael ei berffomio gan y côr yn ystod wythnos yr Eisteddfod,” meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod.
“Mae’r Meseia yn un o weithiau mwyaf adnabyddus a phoblogaidd y byd, a bydd yn braf gweld a chlywed y gwaith hudolus hwn yn cael ei berfformio ar lwyfan y Pafiliwn am y tro cyntaf ers blynyddoedd.
“Eleni, ym Mro Morgannwg, roeddem yn perfformio gwaith newydd gan gyfansoddwr o Gymru, Karl Jenkins, ac y flwyddyn nesaf, yn perfformio un o weithiau enwocaf y byd.
“Mae lle i’r ddau fath o waith yn rhaglen Côr yr Eisteddfod, a chydag ymhell dros gant o bobol eisoes wedi ymaelodi gyda Chôr Eisteddfod 2013, rwy’n hyderus y cawn berfformiad cofiadwy yn Ninbych y flwyddyn nesaf.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau ar dir Fferm Kilford ar gyrion tref Dinbych o 2-10 Awst 2013.