Race Horses yn cloi prif lwyfan Gŵyl Gwydir nos Sadwrn
Roedd Gŵyl Gwydir dros y penwythnos yn Llanrwst yn ‘lwyddiant ysgubol’ yn ôl un o’r trefnwyr, a’r bwriad yn awr ydy prynu pethau eu hunain yn lle benthyg hwnt ac yma.

“Roedden ni wedi gwerthu allan ar y nos Sadwrn, ac mi oedd y nos Wener yn reit llawn hefyd,” meddai Gwion Schiavone wrth Golwg 360.

“Rydan ni wedi cyfro costau, ond hefyd mae gyda ni bach o arian i wella rhywfaint ar yw ŵyl.

“Rydan ni’n dibynnu ar wirfoddolwyr, ac yn gorfod benthyg pethau fel arfer. Y gobaith rŵan ydy prynu stwff ein hunain. Yn lle cael gazebo pymtheg punt, er enghraifft, gallwn brynu rhywbeth cryfach.”


Jakokoyak yn perfformio yng Ngŵyl Gwydir
Roedd yna 20 o fandiau’n perfformio ar tair llwyfan yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy dros y penwythnos, yn ogystal ag ardal i’r plant, fan bwyd a stondinau amrywiol.

“Dydan ni ddim eisiau mynd yn fwy,” meddai Gwion Schiavone, “rydan ni’n hapus fel ydan ni.”

Dydy’r ŵyl ddim yn derbyn unrhyw arian cyhoeddus, ac fel yna y bydd pethau, meddai’n bendant.

“Does dim angen i ni fynd lawr y trywydd yna. Os ydan ni’n dibynnu ar bres cyhoeddus, a bod hwnnw’n diflannu, fydd yna ddim gŵyl i gael wedyn.

“Byddwn ni’n cario mlaen i bwcio bandiau cyffrous, a thrio gwneud y nos Wener yn fwy – trio denu mwy, ac efallai cael dau lwyfan.”

Oedd yna “griw da” yn gwersylla yno eleni, meddai, gyda tua hanner cant o bebyll, â dau neu dri person ym mhob un.

Llinos Dafydd