Gillian Clarke
Bydd dros gant o gopïau o lyfrau wedi eu llofnodi gan awduron ar gael i’w prynu ar-lein ar Hydref 4, trwy Welsh Gift Shop.
 hithau’n ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth y diwrnod hwnnw, bydd copïau o lyfrau llenorion sy’n cynnwys Gillian Clarke, Grahame Davies, Menna Elfyn, Peter Finch, Owen Sheers a Patrick McGuiness yn cael eu gwerthu gyda’u llofnodion ynddyn nhw.
“Dyma ffordd hyfryd ac arloesol i ledaenu’r gair,” meddai Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru, “ac i roi llyfrau ymysg pethau da eraill a wneir yng Nghymru. Cerddi, straeon i synnu y rhodd-heliwr i ddod o hyd i drysor annisgwyl.”
Mae Becca Hemming, sylfaenydd Welsh Gift Shop, yn gweld gwerth a phwysigrwydd i ychwanegu llais Cymraeg i Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.
“Dw i wrth fy modd i gynnig llyfrau wedi eu llofnodi gan yr awduron anhygoel yma. Mae’n ffordd wych o ddathlu llenyddiaeth gyfoethog Cymru,” meddai.
Bydd y llyfrau wedi eu llofnodi ar gael ar Hydref 4, ynghyd ag anrhegion traddodiadol a chyfoes eraill.