Nid yw’n annhebygol y gwelwch chi fodel yn rhofio llanast, a thacluso hwnt ac yma o gwmpas Caerdydd.
Yn fodel rhan amser, dydy Juliet Gamlin ddim yn ofni torchi llewys. Pan nad ydy hi’n strytio’i stwff fel model, mae hi’n gosod ei sodlau uchel naill ochr, er mwyn cadw trefn ar griwiau taclo sbwriel Caerdydd.
Mae’n cyfadde’ wrth y Western Mail heddiw nad yw hi’n ofni cael ei dwylo’n fudr yn yr ymgais o gadw’r Brifddinas yn lan a thaclus.
Heno, bydd rhaglen ar BBC 1 Wales yn ei dilyn hi a’i thîm wrth iddyn nhw lanhau’r ddinas ar gyfer rhai o’r digwyddiadau mwyaf yr haf.
“Dw i’n brysur iawn yn fy swydd,” meddai Juliet Gamlin, sy’n Rheolwr Ardal mewn rheoli gwastraff yng Nghaerdydd.
“Rydyn ni wedi cael cymaint o ddigwyddiadau enfawr dros yr haf. Ar ôl y rygbi rhyngwladol, cafon ni’r Gemau Olympaidd, y Mardi Gras, Extreme Sailing ac ati. Mae wedi bod yn flwyddyn brysur.”
Nid hi ydy’r unig ddynes yn y tîm, meddai, ac maen nhw allan ym mhob tywydd i drio cadw bob man yn daclus.
Mae A Summer in Wales ar BBC Wales heno am 7.30pm