Sian Busby
Mae golygydd busnes y BBC Robert Peston yn cymryd amser i’r ffwrdd o’r gwaith am gyfnod yn dilyn marwolaeth ei wraig.

Bu farw’r nofelydd Sian Busby yn dilyn salwch hir. Roedd y fam i ddau fab wedi bod yn brwydro yn erbyn  cancr yr ysgyfaint. Cafodd ei magu yn Llundain ond roedd ei rhieni yn dod o Gymru ac roedd gan y teulu fwthyn yn Aberystwyth.

Roedd Robert Peston a’i wraig  wedi cwrdd pan oedden nhw yn eu harddegau, gan ddod nôl at ei gilydd flynyddoedd yn ddiweddarach.

Roedd Sian Busby yn adnabyddus am ei nofelau hanesyddol.