Angela Evans
Mae artistiaid Gwynedd yn cynnig cyfle i ymwelwyr gael profiad uniongyrchol o fyd celf gyda chyfres o weithdai ‘galw heibio’ sy’n cael eu cynnal yn ystod digwyddiad Helfa Gelf.

Bydd yr artistiaid yn agor eu stiwdios i ganiatáu i ymwelwyr gael cipolwg ar fyd o greadigrwydd.

Mae’r grŵp o artistiaid Cymreig, Artistiaid Iard, sy’n gweithio ym Mharc Glynllifon ger Caernarfon, yn cymryd rhan yn yr Helfa Gelf y mis yma.

“Gyda’n gilydd, rydym wedi sefydlu gweithdai o gwmpas yr iard, nid yn unig fel lle i ymweld ag ef ond fel canolfan i bobol greadigol ac artistiaid ddysgu a chael profiad o wahanol grefftau,” meddai Dave Stephen, crefftwr llechi traddodiadol sydd hefyd yn gweithio â cherrig, ac fel cerddor a hyfforddwr.

Cynhelir gweithdai a sesiynau galw heibio yn yr Iard y rhan fwyaf o benwythnosau mis yma.

“Mae yna weithdai ac orielau yma gydol y flwyddyn, ond rydym yn awyddus i gynnig mwy. Rydym yn awyddus i wneud y gweithdai hyn yn rhan o Helfa Gelf eleni ac i sicrhau bod y digwyddiad eleni hyd yn oed yn fwy llwyddiannus,” meddai Angela Evans, sy’n creu gemwaith mewn arian a chyfryngau cymysg.

Yn ystod Helfa Gelf, bydd Dave Stephen yn cynnal gweithdy ‘Gwneud ffrâm llun o lechi’, a bydd Wini Jones Lewis yn cynnig gweithdai ar greu printiau caligraffi gyda gwrthrychau hapgael.

“Rydym yn gweithio ar y cyd ac wedi ehangu’r grŵp trwy wahodd artistiaid i ymuno â ni yn ystod Helfa Gelf. Byddwn yn croesawu artistiaid grŵp ‘Creu’ ynghyd â nifer o unigolion talentog sydd wedi manteisio ar y cynllun bwrsari stiwdio,” meddai Angela Evans eto.

“Rydym yn datblygu’n barhaol ac yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn mwynhau ymweld â’n stiwdios ni.”

Mae 13 o artistiaid yn cymryd rhan yn y lleoliad hwn ac maen nhw’n gweithio ag amrywiaeth eang o gyfryngau.