Canelad yn perfformio ar brif lwyfan Gŵyl Gwydir yn 2011
Yn ôl trefnwyr Gŵyl Gwydir a gynhelir dros y penwythnos, mae’r ŵyl eleni’n edrych yn llawer mwy addawol nag yr oedd yr adeg yma llynedd.

Ar y dydd Mawrth cyn i’r ŵyl gael ei chynnal llynedd, roedd safle’r digwyddiad dan ddŵr wrth i lifogydd daro ardal Dyffryn Conwy.

Mae’r trefnwyr wedi cadarnhau wrth Golwg360 heddiw mai gwair sy’n gorchuddio caeau Clwb Rygbi Nant Conwy, lle cynhelir Gŵyl Gwydir, eleni’n hytrach na dŵr.

Gŵyl sy’n datblygu

Cynhelir yr ŵyl, sy’n un o wyliau cerddorol bach mwyaf poblogaidd y Gogledd, ger Llanrwst am y bedwaredd flwyddyn yn olynol dros y penwythnos.

Llynedd oedd y flwyddyn gyntaf i’r ŵyl symud o ganol y dref i’r lleoliad newydd yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy rhwng Llanrwst a Threfriw – a bu ond y dim i’r penderfyniad fod yn un trychinebus gyda phosibilrwydd cryf y byddai’n rhaid canslo.


Caeau Clwb Rygbi Nant Conwy dan ddŵr flwyddyn yn ôl
“Doedd pethau ddim yn edrych yn dda o gwbl yr adeg yma llynedd” meddai Eryl Jones, sy’n un o’r trefnwyr.

“Diolch byth, gwellodd pethau wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen ac roedd yr ŵyl yn llwyddiannus iawn. Mae’n braf peidio gorfod poeni am lifogydd eleni, a gallu canolbwyntio ar weddill y trefniadau”.

“Roedd symud i leoliad newydd y Clwb Rygbi’n bwysig i ni o ran datblygu’r ŵyl – mae wedi caniatáu i ni gyflwyno llwyfan mawr awyr agored, ac yn hwyluso pethau gyda’r gwersylla yn arbennig.”

Arlwy

Disgrifir yr ŵyl yn aml fel un sy’n ‘apelio at y miwsôs’ yn arbennig, gyda cherddoriaeth eclectig yn rhan  amlwg o’r arlwy.

Yn ôl Eryl Jones, mae safon ac amrywiaeth y gerddoriaeth yn uchel ar restr blaenoriaethau’r trefnwyr.

“Gŵyl gerddorol ydy hon ac rydan ni’n trio rhoi llwyfan i gerddoriaeth sydd ddim yn mainstream, ond yn amlwg rydan ni isho denu cymaint â phosib i fwynhau’r arlwy felly yr amrywiaeth sy’n bwysig.”

“Rydan ni’n arbennig o falch bod Ifan Dafydd, sy’n credu tipyn o enw i’w hun ar y sin ddawns ac electronig Brydeinig, wedi cytuno i chwarae eleni tra bod Jakokoyak yn gwneud set prin hefyd.”

“Dwi’n edrych ‘mlaen i weld By the Sea hefyd gan fod ‘na dipyn o buzz amdanyn nhw ochra’ Lerpwl, ond mae rhai o artistiaid gorau Cymru’n perfformio hefyd megis Bob Delyn a’r Ebillion, Race Horses ac Y Niwl.”

Yn ogystal â’r gerddoriaeth ei hun, mae’r trefnwyr yn gobeithio bydd y babell gelf, pentref plant a’r stondinau amrywiol yn atyniadau pellach.

Hefyd eleni, bydd arddangosfa arbennig yn dathlu treftadaeth gerddorol ardal Dyffryn Conwy.

“Mae ‘na gymaint o gerddoriaeth wych wedi dod o Ddyffryn Conwy, roedden ni’n credu y dylen ni achub ar y cyfle i ddathlu hynny eleni” meddai Eryl Jones.

Mae Gŵyl Gwydir yn dechrau yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy am 20:00 nos Wener yma.