Daeth dros 600 ynghyd yng Nghaerdydd dros y penwythnos i wylio Gorymdaith Mardi Gras gyntaf Cymru.

“Mae’r orymdaith yn ffordd hwyliog o ddathlu’r gymuned Trawsrywiog, Hoyw a Lesbiaidd yng Nghaerdydd a Chymru ac yn codi ymwybyddiaeth o’r problemau y maen nhw yn ei wynebu,” meddai Cadeirydd y Mardi Gras, Richard Newton.

“Thema Mardi Gras eleni oedd  ‘gwelededd yn cynyddu dealltwriaeth ac yn lleihau ofn’. Mae hyn yn allweddol er mwyn sicrhau bod y Mardi Gras yn cyrraedd ei brif nod elusennol sef gostwng nifer y troseddau yn ymwneud a chasineb a hybu cydlynu cymunedol.”

Ymunodd y gantores Heather Small, Marcus Collins o’r X Factor a Bright Light Bright Light sydd newydd dderbyn enwebiad am Wobr Gerddoriaeth Cymru ag artistiaid fel The Lady Ga Ga Experience, Stacey Jackson a Clinigol ar y prif lwyfan am 10 awr o  gerddoriaeth ac adloniant a wyliwyd gan 15,000 o bobol.

“Roedd hwn yn gyfle i Gymru gyfan ddweud bod gwahaniaethu, bwlian a throseddu yn erbyn pobl ar sail eu rhyw yn annerbyniol,” meddai Richard Newton.

“Carwn ddiolch eto i bawb a weithiodd mor galed i wneud y Mardi Gras eleni yn fwy a gwell nag erioed.”