David Jones
Fe fydd Cabinet newydd David Cameron yn cwrdd am y tro cyntaf heddiw yn dilyn ad-drefnu ddoe.

Ymhlith y wynebau o gwmpas y bwrdd fydd Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru David Jones sy’n cymryd lle Cheryl Gillan. Fe fydd hi yn dychwelyd i’r meinciau cefn.

Mae Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd wedi dweud mai ei flaenoriaeth yw sicrhau twf economaidd yng Nghymru ac mae wedi addo cyd-weithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru er mwyn cyrraedd ei nod.

Dim ond trwy weithio gyda’n gilydd y gallen ni sicrhau twf economaidd yng Nghymru, oherwydd mae  Cymru yn rhan hanfodol o economi Prydain, meddai.

Mae ei flaenoriaethau eraill yn cynnwys sicrhau bod atomfa newydd yn cael ei adeiladu ar safle Wylfa  yn Ynys Môn, gwella’r rheilffyrdd yng ngogledd Cymru a chyflwyno gwelliannau i draffordd yr M4 a’r A55, a hybu potensial porthladdoedd Caergybi ac Aberdaugleddau.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi croesawu apwyntiad David Jones, a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gael cyfarfod gydag ef er mwyn “sefydlu perthynas newydd er mwyn mynd i’r afael â’r gwaith difrifol sydd o’n blaenau ni.”

Y Cabinet

Ymhlith y newidiadau eraill i Gabinet David Cameron, mae Jeremy Hunt wedi cael ei benodi’n Ysgrifennydd Iechyd newydd  gyda’r her o gyflwyno diwygiadau Andrew Lansley, sydd bellach yn Arweinydd y Tŷ.

Mae  Maria Miller wedi  derbyn hen swydd Jeremy Hunt,  ac yn dod yn Ysgrifennydd Diwylliant.

Chris Grayling sydd bellach yn Ysgrifennydd Cyfiawnder, yn lle Ken Clarke sy’n debygol o aros yn y Cabinet ond heb bortffolio.

Nid oes newid yn y swyddi mawr – y Canghellor, Ysgrifennydd Tramor, Ysgrifennydd Addysg a’r Ysgrifennydd Busnes.  Theresa Villiers yw Ysgrifennydd newydd Gogledd Iwerddon.

Roedd Caroline Spelman hefyd wedi colli ei swydd fel Ysgrifennydd yr Amgylchedd a bydd Owen Paterson yn cymryd ei lle.