Y blaid sy’n galw am annibyniaeth i Quebec fydd yn cipio grym yn yr etholiadau i Gynulliad y dalaith heddiw, medd y polau piniwn.

Y Parti Québécois sydd wedi bod yn arwain yn y polau, a byddai mwyafrif iddyn nhw o fewn y Cynulliad 125-sedd yn rhoi annibyniaeth i Quebec yn ôl ar yr agenda yng Nghanada.

Yn 1995 gwrthododd pobol Quebec annibyniaeth, o drwch blewyn, yn y refferendwm diwethaf i gael ei gynnal ar y pwnc yn y dalaith Ffrangeg ei hiaith.

Jean Charest o’r blaid Ryddfrydol sydd wedi bod yn arwain Cynulliad Quebec ers bron i ddegawd, ond mae’n edrych yn debyg mai’r Parti Québécois, a’i harweinydd Pauline Marois, fydd yn ennill y nifer fwyaf o seddi heddiw.

Yn ôl y pôl piniwn olaf cyn i’r blychau pleidleisio agor, mae’r PQ yn debygol o gael 36% o’r bleidlais, sy’n ddigon i roi mwyafrif o’r seddi iddyn nhw.

Ond nid yw refferendwm ar annibyniaeth yn sicr o ddilyn. Mae Pauline Marois wedi dweud y byddai’n fodlon cynnal un “yfory” petai’n sicr o ennill, ond mae polau piniwn yn awgrymu mai rhwng 30 a 40% o bobol Quebec sydd o blaid annibyniaeth ar hyn o bryd.

Mae’r PQ yn dadlau nad yw Quebec yn elwa digon o’i hadnoddau naturiol a bod angen gwneud mwy i ddiogelu’r Ffrangeg, sy’n famiaith i 80% o’r 7.8m o bobol sy’n byw yn Quebec.