Yn draddodiadol cylchgrawn Lol sydd wedi cynnig dychan ar y Gymru Gymraeg
Yr wythnos hon mae gwefan dychanu newyddion wedi ei lansio, sy’n rhoi tro digrif yng nghynffon ambell stori go-iawn.

Nid yw awdur Llygad Ddu am ddatgelu ei enw go-iawn ar hyn o bryd, ond mae’n croesawu cyfraniadau gan eraill i’w wefan – os ydyn nhw’n ddigon doniol.

Ac mae’n credu bod angen i’r Cymry ddarllen straeon dychanol er mwyn osgoi “cymryd ein hunain ormod o ddifrif weithiau”.

Mae am osgoi cyhoeddi straeon sy’n gas a sarhaus.

Mi holodd golwg360 am ethos y wefan a ballu…

Pam mynd ati i sefydlu gwefan newyddion dychanol?

Rwy wedi bod yn meddwl am y peth ers cryn amser oherwydd dw i’n darllen gwefannau newyddion fel golwg360, Daily Post a Newyddion BBC pob dydd ac yn aml yn meddwl bod stori yn ddoniol. Cam naturiol felly ydi cymryd y straeon sydd allan yna’n barod a rhoi spin fy hun arnyn nhw. Mae gwefannau fel The Daily Mash yn Lloegr a The Onion yn yr Unol Daleithiau yn boblogaidd oherwydd eu bod nhw’n cymryd golwg wahanol ar beth sy’n digwydd yn y newyddion a dw i’n meddwl bod angen hynny yma yng Nghymru hefyd oherwydd mae peryg ein bod ni’n cymryd ein hunain ormod o ddifrif weithiau.

Pa mor aml wyt ti’n meddwl y byddi di’n postio straeon?

Rwy’n gobeithio postio un y dydd, ag eithrio penwythnosau, i ddechrau. Ond mae’r wefan yn un hoffwn i ei datblygu fel ein bod ni’n cael cyfrannwyr yn ’sgwennu straeon ar ei chyfer hi hefyd. Yr unig beth rwy’n gofyn ydi bod y stori’n ddoniol, yn gyfoes a bod hi ddim yn gas gyda neb.  Mae croeso i unrhywun anfon ei straeon at llygad.ddu@gmail.com ac rwy’n gaddo cadw enwau pob cyfranwr yn gyfrinachol – os nad ydyn nhw eisiau cael eu henwi wrth gwrs.

Ai dyma’r wefan gyntaf o’i bath yn y Gymraeg?

Am wn i, ie. Yr unig beth arall tebyg alla i feddwl amdano ydi Lol, a tydi’r cylchgrawn hwnnw ond yn cael ei gyhoeddi unwaith y flwyddyn. Be sy’n wych am y We ydi ein bod ni’n gallu gwneud hyn – y wefan a’r marchnata – i gyd am ddim. Does dim costau cyhoeddi na dosbarthu ac oherwydd hynny, mae’r cynnwys am ddim hefyd.

Pa mor bwysig ydy hi bod Cymry Cymraeg yn mynd ati i greu gwefannau?

Mae cymuned dda, sy’n tyfu pob dydd, o Gymry ar y We ac oherwydd hynny mae creu gwefan a thargedu’r pobl yn weddol hawdd. Beth fydd yn anodd ydi bwrw ati i greu straeon newydd pob dydd ond gyda help pobl, rwy’n mawr obeithio y bydd hynny’n bosib a bydd Llygad Ddu yn wefan newyddion dychanol fydd yn cael hwyl gyda newyddion Cymreig am beth amser.

Ewch draw i fama i gael blas o’r arlwy:

http://llygadddu.wordpress.com/