Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Gweinidog Amgylcheddol Llywodraeth Cymru, John Griffiths, am beidio â mynd i weld yr ardaloedd sy’n cael eu hystyried ar gyfer y cynllun ‘parthau cadwraeth morwrol’.

Mae’r llefydd hyn yn destyn dadlau ffyrnig ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bwriad i wahardd sgota a phethau tebyg mewn pedwar lleoliad ar hyd arfordir ei gwlad.

“Mae’n bryderus os nad ydi o (John Griffiths) wedi bod yn cydweithio efo’r cymunedau lleol,” meddai Claire Russell Griffiths, cynghorydd cymunedol ym Mhen Llŷn sy’n ymgyrchu’n erbyn y parthau.

Ac mae’r Aelod Cynulliad Tori yn cytuno.

“Bydd cymunedau lleol ddim yn synnu i glywed nad oedd y Gweinidog (yr Amgylchedd) wedi cymryd amser i ymweld â nhw cyn cyhoeddi’r ymgynghoriad dadleuol,” meddai Antoinette Sandbach.

“Mae’n rhyfeddol nad oedd y Gweinidog wedi trafferthu i ddarganfod os oedd un polisi gan y Cynulliad yn ymarferol i ddeg parth morwrol amgylcheddol amrywiol .

“Petai’r Gweinidog wedi gweld iddo’i hun yr effaith y byddai’r cyfyngiadau yma’n eu cael, efallai y byddai wedi meddwl dwywaith am y polisi yma sydd wedi derbyn cryn dipyn o feirniadaeth,” ychwanegodd.

Ond mae llefarydd ar ran swyddfa John Griffiths yn dweud ei bod “wedi ei wneud yn glir o’r cychwyn mai camau cynnar yn y broses yw hi o hyd, ac y cam nesaf bydd gwneud crynodeb o’r broses hyd yn hyn”.

Dyma’r datganiad yn llawn:

“Megis dechrau y mae ein gwaith ar y parthau cadwraeth morol ac roedd ein hymgynghoriad diweddar yn canolbwyntio ar gasglu safbwyntiau a thystiolaeth,” meddai llefarydd ar ran llywodraeth Cymru.

“Yr ymgynghoriad diweddar oedd y cyntaf o dri cham ein proses ymgynghori a chanolbwyntiwyd ar gasglu gwybodaeth a barn pobl ar draws Cymru, yn enwedig y cymunedau glan môr.

“Roeddem am gael gwybod sut mae pobl yn defnyddio’r parthau, sut y byddai parthau cadwraeth yn effeithio arnyn nhw a sut y gallem leihau eu heffeithiau ar weithgareddau lleol,” ychwanegodd.

“Cawsom ymateb gwych i’r ymgynghoriad ac roedd y cyfarfodydd cyhoeddus a gynhaliwyd i glywed barn y bobl yn boblogaidd iawn.

“Ym mis Gorffennaf, aeth y Gweinidog i gyfarfod â Chymdeithas Pysgotwyr Cymru i glywed barn a phryderon y sector. Rydym nawr wrthi’n ystyried yr holl ymatebion a ddaeth i law cyn penderfynu ar y camau nesaf.”