Llys y Goron Caernarfon
Mae rheithgor wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn yr achos yn erbyn dyn o Bowys sydd wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth pedwar o bobl drwy yrru’n beryglus.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon ddoe bod Gordon Dyche, 24, o ardal Llanbrynmair wedi dweud wrth yr heddlu mai fo oedd ar fai am y ddamwain am ei fod yn rhuthro i fynd i’r gwaith, ond fe ddywedodd yn ddiweddarach ei fod mewn sioc pan wnaeth y sylwadau.
Fe ddigwyddodd y ddamwain wrth i Gordon Dyche geisio pasio dau gar, gan gynnwys car Peugeot Denise Griffith o Bontypridd.
Roedd car Gordon Dyche wedi taro yn erbyn y Peugeot gan achosi i’r car blymio i Lyn Clywedog.
Bu farw gŵr Denise Griffith, Emyr Griffith, 66, ei mam Phyllis Hooper, 84, a’i dau fab maeth Peter Briscome, 14, a Liam Govier, 14 yn y ddamwain.
Mae Gordon Dyche yn mynnu nad oedd ar fai gan ddweud ei fod yn “ddamwain drasig.”
Mae’r achos yn parhau.