Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd cleifion wedi gwneud tua 3,000 o gwynion yn wythnosol ynglŷn â’u profiadau gyda’r Gwasanaeth Iechyd.

Rhwng 2011 a 2012, cafwyd 162,100 o gwynion – dros 3,100 yr wythnos – yn ôl y ffigurau gan Ganolfan Wybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSCIC).

Roedd bron i hanner y cwynion yn ymwneud â doctoriaid mewn ysbytai a llawfeddygon tra bod un ymhob pum cwyn yn ymwneud â nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd.

Bu 54,900 o gwynion ysgrifenedig am ymarferion doctoriaid lleol a gwasanaethau deintyddol GIG – cynnydd o 8% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Roedd traean o’r rhain wedi’u seilio ar benderfyniadau, cyngor a thriniaeth a oedd wedi ei ddarparu gan ofalwyr proffesiynol, yn ôl yr ystadegau.

“Dyw cynnydd yn  nifer y cwynion gan gleifion ddim o reidrwydd yn golygu eu bod nhw’n llai bodlon gyda’u gofal,” medd dirprwy brif weithredwr Conffederasiwn GIG.

“Er bod hyn yn swnio’n od, gall cynnydd yn nifer y cwynion olygu bod cleifion yn teimlo mwy o gysylltiad gyda’r GIG lleol ac eisiau cyd-weithio er mwyn gwella,” ychwanegodd.

“Mae angen i ni hefyd gadw’r ffigurau yma mewn persbectif,” meddai. “Mae’r GIG yn gweld dros filiwn o gleifion bob dydd ac yn perfformio cannoedd o filiynau o driniaethau bob blwyddyn. Dim ond cyfran fechan iawn o’r rhain sy’n cael achos i gwyno.”