Mae’r gwasanaeth cudd yn Sweden wedi dod dan y lach am wario mwy na £400,000 ar barti ar gyfer eu staff – gyda thema James Bond.

Mae’r Prif Weinidog wedi annog penaethiaid asiantaethau’r llywodraeth i reoli eu gwariant ar ôl i’r gwasanaeth cudd gyfaddef iddyn nhw wario miloedd ar y parti.

Roedd y gwasanaeth cudd (SAPO) wedi cynnal y parti ar gyfer 1,000 o’i staff ym mis Mehefin 2011. Dywedodd SAPO bod y parti yn dilyn diwrnod o ddigwyddiadau addysgiadol ar ôl blwyddyn o newidiadau yn y sefydliad a phwysau gwaith sylweddol.

Dywedodd y Prif Weinidog Fredrik Reinfeldt bod penaethiaid asiantaethau’r llywodraeth “yn cael eu talu digon ac fe ddylen nhw wybod yn well.”

Mae nifer wedi beirniadu’r digwyddiad gan ddweud fod yr amseru yn wael gan fod SAPO ynghanol cyfnod o adrefnu sy’n cynnwys toriadau mewn cyllid.