Capten Cymru, Aaron Ramsey
Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, wedi enwi’r garfan fydd yn wynebu Gwlad Belg a Serbia yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 sydd yn cychwyn wythnos nesaf.

Yr unig chwaraewr sydd heb ennill cap ac sydd wedi’i enwi yn y garfan yw’r chwaraewr canol cae 18 oed, Jonathan Williams – sy’n chwarae i Crystal Palace.

Bydd Cymru’n chwarae Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 7 Medi ac yna’n teithio i Novi Sad i herio Serbia ar 11 Medi.

Mae Coleman yn dal i ddisgwyl am ei fuddugoliaeth gyntaf yn rheolwr Cymru yn dilyn y golled ddiweddaraf yn erbyn Bosnia-Herzegovina yn gynharach fis yma.

Y garfan 

Jason Brown (Aberdeen), Boaz Myhill (West Bromwich Albion), Lewis Price (Crystal Palace); Darcy Blake (Crystal Palace), James Collins (West Ham United), Chris Gunter (Reading), Joel Lynch (Huddersfield Town), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe); Joe Allen (Lerpwl), Andrew Crofts (Brighton & Hove Albion), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Andy King (Caerlyr), Aaron Ramsey (Arsenal, capten), Jonathan Williams (Crystal Palace), Gareth Bale (Tottenham Hotspur); Craig Bellamy (Caerdydd), Simon Church (Reading), Steve Morison (Norwich City), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley).