Gavin Henson
Mae clwb rygbi Cymry Llundain wedi cadarnhau na fyddan nhw’n cymryd unrhyw gamau pellach dros yr anaf a gafodd Gavin Henson ddydd Sadwrn diwethaf mewn gem gyfeillgar yn erbyn y Scarlets.

Roedd Henson wedi torri asgwrn ei foch ar ol taro yn erbyn Deacon Manu, ac mae’n debyg na fydd yn gallu chwarae am oddeutu chwe wythnos.

Dywedodd y clwb eu bod wedi edrych droeon ar y digwyddiad ar DVD, ond eu bod yn fodlon bod yr anaf a gafodd Gavin Henson wedi’i achosi gan wrthdaro damweiniol i’r pen.  Nid yw’r clwb yn beio unrhyw un o chwaraewyr y  Scarlets am y digwyddiad.