Ar ddiwrnod agoriadol y Gemau Paralympaidd mae Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn buddsoddi £20,000 ychwanegol mewn Chwaraeon Anabl.
Gyda’r swm yma mae’r buddsoddiad ariannol mewn chwaraeon anabl yng Nghymru yn dringo dros filiwn o bunnoedd y flwyddyn.
Mae 38 o athletwyr o Gymru yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd rhwng yfory a dydd Sul 9 Medi, a dywed Cadeirydd Chwaraeon Cymru fod y genedl yn “gadarnle Paralympaidd.”
“Mae Chwaraeon Cymru Anabl wedi bod ar flaen y gad o ran y newid sydd wedi bod ym mhroffil a llwyddiant chwaraeon anabl yn y wlad yma,” meddai Laura McAllister.
“Ac nid yw hynny yn nhermau elît yn unig ychwaith, er bod ein llwyddiannau wrth ennill medalau yn eithriadol, ond hefyd yn nhermau creu cyfleon i bobol ar lawr gwlad ym maes chwaraeon anabl dros y ddeng mlynedd diwethaf.”
Gosod targed o 30 medal
Dywed Cyfarwyddwr Chwaraeon Cymru, Jon Morgan, mai’r hyfforddwyr yw asedau mwyaf y gamp yng Nghymru.
“O achos eu talent a’u gwaith caled nhw mae ein athletwyr ni wedi datblygu digon i gael eu dewis ar gyfer tîm Paralympaidd Prydain yn Llundain,” meddai.
Yn Beijing yn 2008 enillodd athletwyr Cymru 14 medal, gan gynnwys deg aur, a fyddai wedi rhoi Cymru ar frig y tabl fesul poblogaeth. Mae Chwaraeon Anabl Cymru wedi gosod targed o 30 medal yn Llundain ac yn Rio 2016, a tharged ymestynnol o 40 medal.
Ymhlith y rhai fydd yn amdddiffyn eu teitlau Olympaidd dros y deg diwrnod nesaf mae’r taflwr gwaywffon Nathan Stephens a’r nofwyr Liz Johnson a Nyree Kindred.