Mewn datganiad i’r wasg y prynhawn yma, fe gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru fod rhanbarthau Cymru wedi cytuno ar gynnal diwrnod blynyddol lle mae’r pedwar tîm yn cymryd rhan mewn dwy gêm yn Stadiwm y Mileniwm.

Fel rhan o gynllun URC i hybu cefnogaeth ymysg y rhanbarthau yng nghynghrair RaboDirect PRO12, bydd y Sgarlets, y Gleision, y Gweilch a’r Dreigiau yn cymryd rhan mewn diwrnod arbennig yn flynyddol.

“Bydd y ddwy gêm unigryw yn syth ar ôl ei gilydd yn foment hanesyddol i rygbi Cymru,” meddai prif weithredwr URC, Roger Lewis.

“Mae wedi cymryd pum mlynedd i ni roi’r gemau yma at ei gilydd, ond rydw i’n hyderus y bydden nhw’n gwneud i fyny am y disgwyl,” ychwanegodd.

“Rwy’n rhagweld y bydd y diwrnod yma’n tyfu i fod yn uchafbwynt yng nghalendr rygbi Cymru am flynyddoedd i ddod.”

Bydd y gemau yn newid yn flynyddol fel bod pob tîm yn chwarae ei gilydd.

Ar 30 Mawrth 2013 bydd y Sgarlets yn chwarae’r Dreigiau, ac yna’r Gleision yn herio’r Gweilch.

Mae tocynnau ar gael i’r diwrnod gan y rhanbarthau, Ticketmaster ac ar wefan Undeb Rygbi Cymru.