Gêm yr Alban fis nesaf
Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi cyrraedd safle 37 ar restr detholion diweddaraf FIFA – yr uchaf yn ei hanes.

Daw hyn ar ôl dwy fuddugoliaeth bwysig yng ngemau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop sy’n cael ei gynnal yn Sweden haf nesaf.

Ym mis Mehefin fe gurodd tîm Jarmo Matikainen Weriniaeth Iwerddon 1-0 yng Nghorc ac yna trechu Israel 5-0 yn Wrecsam.

Ar 15 Medi bydd Cymru’n herio’r Alban ar Barc y Sgarlets, Llanelli, gyda buddugoliaeth yn sicrhau eu lle yn ail yn y grŵp y tu ôl i Ffrainc.

Petai Ffrainc yn fuddugol yn erbyn yr Alban yng ngêm ola’r grwp byddai Cymru’n cael y cyfle i fynd drwodd i’r prif bencampwriaeth am y tro cyntaf yn ei hanes.

America, unwaith eto, oedd ar frig rhestr detholion FIFA.