Yr Amffitheatr newydd
Agorwyd Amffitheatr sy’n gallu eistedd 250 o bobl ei hagor yn Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog dros y Sul.
Mae Amffitheatr John Andrews wedi cael ei henwi ar ôl un o noddwyr amlwg yr oriel.
Cafodd y theatr ei datblygu mewn coedwig sydd wedi ei dynodi’n ‘goedwig hynafol’ am ei bod yn dyddio yn ôl i’r 16 ganrif ac mae’r seddau yn cynnig golygfeydd gwych o Fae Ceredigion.
Roedd y gwaith o glirio’r goedlan yn anferth ond mae cynllun 25 mlynedd yn sicrhau mai dim ond coed brodorol – ac nid rhododendron – fydd yn cael gwreiddio yno bellach.
Mae llwybrau cerdded newydd yn y goedlan eisoes ar agor.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Oriel, Gwyn Jones, y bydd yr amffitheatr a’r ystafell amlbwrpas newydd yn cynnig llwyfan ar gyfer cynnal gweithgareddau a gweithdai o bob math.
“Cwblhawyd y gwaith datblygu drwy waith caled ac ymroddiad sylweddol nifer iawn o bobl, gan gynnwys staff yr oriel a’r gwirfoddolwyr,” meddai. “Rydym yn falch iawn o allu dweud bod yr amffitheatr wedi ei hadeiladu gan gontractwyr lleol gyda defnyddiau sydd wedi eu ffynhonnellu yn lleol.”
Defnyddiwyd gwenithfaen o chwarel Trefor a phren o’r safle ei hun ar gyfer y gwaith.
Mae agor yr amffitheatr yn bellanw cynllun £750,000 fu ar y gweill am bedair blynedd i ail-ddatblygu coedlan ‘Y Winllan’ sy’n cynnwys y rhwydwaith o lwybrau troed a maes parcio newydd i wasanaethu’r oriel ei hun.