Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu eu bod nhw’n anfon llawer o’u sbwriel ailgylchu i China.
Anfonodd y cyngor 6,552 tunnell o bapur a 714.12 tunnell o blastig i’r wlad rhwng Ebrill 2010 a 2012.
Teithiodd y sbwriel dros 6,000 milltir i gyrraedd rhanbarth Zhejiang a dinas Hong Kong.
Roedd y cyngor wedi ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan bapur newydd y Western Mail.
Dywedodd amgylcheddwyr wrth y papur nad oedd yn beth drwg anfon sbwriel i China.
Roedd nwyddau yn cyrraedd ar longau o China, ac roedd yn gwneud synnwyr nad oedd y llongau rheini yn teithio’n ôl yn wag, medden nhw.
Dywedodd Gordon James o Gyfeillion y Ddaear Cymru bod China yn gwneud job dda o ailgylchu’r deunydd.
“Ond yn amgylcheddol ac yn economaidd fe fyddai yn well petai yna fodd i ni wneud yr ailgylchu ein hunain,” meddai.
“Fe fyddai hynny yn hwb i’r economi. Mae ailgylchu mwy a mwy yn mynd i arwain at greu swyddi os ydyn ni’n ei wneud ein hunain.”
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd bod rheolau Ewropeaidd yn dweud fod rhaid iddyn nhw ystyried cynigion gan gwmnïoedd ailgylchu o bob cwr o’r byd.
“Rydyn ni’n cynnig y cytundeb i’r cwmni sy’n cynnig y gwerth gorau am arian i Gaerdydd,” meddai.