Aethpwyd a gyrrwr lori i’r ysbyty bore ma wedi iddo gael ei daro gan gar.

Roedd wedi gadael ei gerbyd er mwyn helpu i symud ceffylau oedd ar grwydr o’r ffordd.

Dioddefodd anafiadau difrifol i’w ben o ganlyniad i’r gwrthdrawiad.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar 12.40am bore ma, ar yr A365 rhwng cylchfan Hirwaun a Glyn-nedd.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y dyn 50 oed wedi ei daro gan gar Ford Focus glas oedd yn teithio i gyfeiriad y gorllewin.

Aethpwyd ag ef i Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.