Mae cwmni o Landudno yn dweud eu bod nhw wedi dyfeisio’r ateb perffaith i’r haf oer a glawog – hufen iâ cynnes.
Creuwyd y hufen iâ arbennig gan gwmni Baravellis. Mae’n blasu fel teisen gri (pice ar y maen), ac yn cynnwys nytmeg a sinamon.
Dywedodd y cwni fod yr hufen iâ yn rhoi teimlad “cynnes braf” i bwy bynnag sy’n ei fwyta, pa bynnag mor wlyb yw’r tywydd.
“Mae hufen iâ yn rhan hanfodol o’r haf, ac roedden ni eisiau creu rywbeth y byddai modd ei fwyta beth bynnag y tywydd, a chynnwys cynhwysion Cymreig,” meddai Sam Nayar o Destination Conwy.
“Mae plant ac oedolion wedi cael blas arno hyd yn hyn.
“Mae gan Gernyw ei bastai, Swydd Efrog ei bwdin, ac rydyn ni’n gbeithio y bydd gan Gymru ei fwyd arbennig ei hun o hyn ymlaen.”
Dywedodd Mark Baravelli, o Baravellis, bod modd creu unrhyw fath o hufen iâ ar yr amod fod galw amdano.
“Rwy’n credu bod yr hufen iâ cynnes yma yn anarferol iawn,” meddai.
“Mae’n gyfuniad gwych a rwy’n credu y bydd yn gwethru’n dda iawn, yn enwedig wrth ystyried y tywydd!”