Mae cyn-ysgrifennydd gwladol Cymru wedi datgan ei ddicter ar ôl i hacwyr ymosod ar ei wefan.

Roedd hacwyr o grŵp Anonymous wedi meddiannu ei wefan, a gadael negeseuon yn ymosod ar ei record wleidyddol.

Roedd negeseuon hefyd wedi eu cyhoeddi oedd yn cefnogi sylfaenydd Wikileaks, Julian Assange.

Mae Julian Assange wedi bod yn llysgenhadaeth Ecuador ers deufis wrth iddo geisio osgoi cael ei anfon i Sweden er mwyn wynebu cyhuddiadau ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes yno.

“Cafodd fy ngwefan ei hacio gan Anonymous ac rydw i’n gobeithio ei adfer cyn gynted a bo modd,” meddai.

“Mae hyn yn dystiolaeth bellach bod angen gweithredu er mwyn atal y bygythiad diogelwch ar-lein ym Mhrydain. Mae sawl gwefan wedi cael eu targedu yn ddiweddar.”

Mae Anonymous wedi gwneud enw i’w hunain dros y blynyddoedd diwethaf ar ôl llwyddo i hacio gwefannau llywodraethau a chyrff cyhoeddus.

Maen nhw eisoes wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiadau cyfrifiadurol ar gyrff gan gynnwys yr FBI, y CIA, Senedd yr Unol Daleithiau, a gwefannau pornograffi.