Mae trefnwyr y Gemau Paralympaidd wedi eu cyhuddo o wahaniaethu yn erbyn pobol anabl drwy orfodi defnyddwyr cadeiriau olwyn i archebu tocynnau drwy linellau ffôn costus.
Bydd rhaid i unrhyw un sy’n archebu tocynnau ar gyfer seddi cadair olwyn ffonio rhif 0844 sy’n costio 41 ceiniog bob munud.
Mae pobol sydd ddim mewn cadair olwyn yn gallu archebu eu tocynnau ar-lein gan y trefnwyr Locog heb orfod talu ceiniog.
Dywedodd rhaid pobol anabl eu bod nhw wedi gorfod aros ar y ffon am gyfnodau hir cyn cael gwybod nad oedd unrhyw seddi ar gael wedi’r cwbl.
Roedd Nicol Carlin, 31, o Fanceinion wedi ceisio sicrhau tocynnau ar gyfer ei mab anabl Matthew.
Dywedodd ei bod hi wedi gorfod ffonio’r llinell 20 o weithiau, ac wedi treulio hyd at hanner awr yn disgwyl i gael siarad â rhywun.
“Alla’ i ddim deall pam bod y trefnwyr wedi ei gwneud hi mor anodd i bobol fel ni gael tocynnau,” meddai.
“Does dim byd ar y llinell ffon sy’n dangos faint mae’n costio, ac mae pobol sy’n torri eu boliau i gael tocynnau wedi gorfod disgwyl am oes.”
Mae grŵp Facebook ‘Stopiwch y Gemau Olympaidd rhag camwahaniaethu yn erbyn defnyddwyr cadeiriau olwyn!’ wedi denu 700 o aelodau.