Michu
Abertawe: 3 0: West Ham
Mae dechrau gwych Abertawe i’r tymor pêl-droed yn parhau. Mae’n siŵr fod eu rheolwr newydd, Michael Laudrup, ar ben ei ddigon wrth eu gweld ar frig yr Uwchgynghrair ar ddiwedd y gêm.
Angel Rangel sgoriodd gôl gyntaf yr Elyrch prynhawn ʼma ar Stadiwm Liberty, ac yna’r Sbaenwr dawnus, Michu, wnaeth sgorio’r ail ar yr hanner awr.
Roedd Abertawe yn parhau i edrych yn beryglus yn yr ail hanner ac fe sgoriodd Danny Graham drydedd gôl wedi 64 munud. Dyna ei gôl gyntaf y tymor hwn.
Doedd Scott Sinclair ddim yn rhan o’r tîm heddiw. Mae’n debyg ei fod ar y ffordd i Manchester City.
Doedd chwaraewr newydd Abertawe, Ki Sung-Yeung o dde Korea, ddim yn chwarae heddiw chwaith, ond fe gafodd ei gyflwyno i’r dorf ar ddechrau’r gêm.
Mae’r ffordd y mae’r Elyrch yn chwarae wedi ennyn edmygedd un o chwaraewyr gorau’r byd.
Meddai’r Sbaenwr Cesc Fabregas, sy’n chwarae i Barcelona, wrth drydar, “Como juega el Swansea… Madre mhia. Com juga el Swansea… Mare meva. I love the way Swansea plays… Respect.