Bydd cyfle i weld enillydd y Tour De France ac enillydd Medal Aur yn y Gemau Olympaidd, Bradley Wiggins, yng Nghymru mis nesaf.

Bydd Wiggins yn aelod o Dîm Sky ar gyfer ras Taith Prydain sy’n ymweld â Chaerffili.

Bydd Caerffili yn cynnal y chweched cam, sef diweddglo’r ras ar Ddydd Gwener, 14 Medi. Bydd bron i 100 o feicwyr gorau’r byd yn rasio drwy strydoedd Caerffili. Bydd y beicwyr hefyd yn wynebu dwy ddringfa galed i ben Mynydd Caerffili cyn dod i lawr i mewn i’r dref ar gyfer diwedd y ras ger y castell.

Mae’r Cynghorydd Harry Andrews, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wrth ei fodd fod y ras yn dod i’r dref.

“Mae’n anrhydedd mawr i groesawu’r pencampwr arbennig yn fuan ar ôl iddo ysbrydoli’r genedl gyda’i lwyddiant yn y Tour de France a’r Gemau Olympaidd,” meddai.

Bydd Mark Cavendish hefyd yn cymryd rhan yn y ras.