Mae Gavin Henson wedi dweud ei fod yn falch ei fod wedi cael ail gyfle gyda thîm rygbi Cymry Llundain.

“Nhw oedd yr unig dîm i roi cyfle arall i mi, ac mae’n wych i fod yn ôl yn chwarae rygbi unwaith eto,” meddai.

“Dwi’n edrych ymlaen at ddechrau’r tymor. Dwi wedi dweud fy mod i wedi bod yn awyddus i chwarae yn y safle 10 am beth amser ac mae Lyn (prif hyfforddwr Cymry Llundain) yn hapus i mi chwarae 10.

“Dwi wedi cydweithio’n dda â Lyn yn y gorffennol ac mae’n debyg fy mod i wedi chwarae fy rygbi gorau dan ei arweiniad e yn 2003-04.”

Dim ond ychydig o gemau mae Gavin Henson wedi eu chwarae ers iddo frifo ei ffêr ym mis Mawrth 2009. Mi wnaeth roi’r gorau i rygbi am gyfnod cyn ymuno â Saracens ym mis Hydref 2010, Toulon ym mis Chwefror 2011, ac yna’r Gleison yn Hydref 2011. Gadawodd y clwb hwnnw ar ôl digwyddiad ar awyren wrth i’r tîm deithio nôl i Gaerdydd ar ôl colli gêm yn Glasgow.

Bydd Gavin Henson yn dychwelyd i Gymru heddiw gan fod Cymry Llundain yn ymweld â Pharc y Scarlets ar gyfer gêm gyfeillgar.