Ki Sung-Yong
Mae Abertawe wedi talu’r swm mwyaf erioed iddyn nhw dalu am chwaraewr wrth arwyddo Ki Sung-Yueng o Celtic.
Nid yw’r clwb wedi datgelu’r ffi am y chwaraewr 23 oed, ond mae adroddiadau ei fod oddeutu £5m. Ki Sung-Yueng felly yw’r chwaraewr drutaf erioed o Dde Corea.
Dywedodd Sung-Yueng fod y penderfyniad wedi bod yn un hawdd iddo, a bod arddull chwarae Abertawe wedi creu argraff fawr arno.
Mae disgwyl iddo wylio Abertawe yn chwarae West Ham yfory o’r eisteddle, ond ni fydd yn rhan o’r garfan.
Ef oedd Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yn Asia yn 2009, ac enillodd fedal Efydd yn y Gemau Olympaidd yn Llundain ar ôl i Dde Corea orffen yn drydydd.