Mae Lance Armstrong wedi colli ei hawl i’w saith teitl Tour de France ar ôl iddo benderfynu peidio herio cyhuddiadau o ddefnyddio cyffuriau.

Neithiwr cyhoeddodd Lance Armstrong na fyddai’n ymladd yr honiadau, ac mai “digon yw digon.”

Yn dilyn y cyhoeddiad dywedodd Asiantaeth Gwrth-gyffuriau yr Unol Daleithiau y byddan nhw’n cosbi’r gŵr o Texas.

Mae wedi cael ei wahardd rhag cystadlu eto ac wedi colli’r holl deitlau a enillodd ar ôl 1 Awst 1998, sy’n cynnwys y saith teitl Tour de France a enillodd rhwng 1999 a 2005.

Roedd Armstrong, 40,  wedi dod yn arwr i filiynau o bobol ar ôl gorchfygu canser, ennill y ras feics fwyaf yn y byd, a sefydlu elusen ganser, ond mae’n cael ei ystyried yn dwyllwr bellach gan asiantaeth gyffuriau ei wlad.