Warren Gatland
Bu hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland, yn agos i roi’r gorau i’w swydd ar ôl Cwpan y Byd y llynedd.
Gorffennodd Cymru’n bedwerydd yn y gystadleuaeth yn Seland Newydd, mamwlad Warren Gatland, ac mae’r Kiwi wedi datgelu pa mor agos yr oedd at gymryd swydd Waikato Chiefs.
Dywedodd wrth wefan stuff.co.nz fod telerau’r cytundeb yr oedd y tîm o Seland Newydd yn cynnig iddo yn waeth na thelerau ei gytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru.
Dim ond anghydfod yn nhelerau’r cytundeb rwystrodd yr hyfforddwr rhag peidio cymryd y swydd gyda’r tîm sy’n chwarae yn y Super 15, meddai.
Fe arwyddodd Warren Gatland gytundeb â URC ym mis Hydref 2010, sydd yn rhedeg hyd nes diwedd Cwpan y Byd 2015.
Telerau cytundeb
“Roeddwn i am ddod yn ôl i Seland Newydd ac fe ges i gynnig cytundeb gyda’r Chiefs,” meddai Warren Gatland.
Dywedodd bod y Chiefs yn cynnig llai o arian nag yr oedd yn arfer cael yn ei swydd flaenorol gyda’r clwb ond “dyna oedd y gorau oedden nhw’n gallu ei gynnig,” meddai.
“Petai nhw wedi symud rhyw 10 neu 15 mil mi faswn i wedi dweud ‘oce, mae hynny’n wych…rydych wedi symud rhywfaint’ a baswn i wedi cymryd y swydd,” ychwanegodd.
Ond doedd y clwb ddim am gynnig mwy iddo, ac felly fe wrthododd y cytundeb.
Y Llewod
Dywedodd Warren Gatland ddoe ei fod wedi dod i gytundeb gyda’r Llewod a fydd yn caniatáu iddo fod yn gyfrifol am ddwy o gemau rhyngwladol Cymru ym mis Hydref.
Mae’r hyfforddwr, sy’n 48 oed, ar fin cael ei benodi ym mis Medi fel rheolwr y Llewod ar gyfer y daith i Awstralia yn 2013.
Roedd y Llewod eisiau iddo ildio ei rôl gyda Chymru am flwyddyn, ond dywedodd y bydd yn gyfrifol am y gemau mis Hydref yn erbyn Seland Newydd ac Awstralia.