Poster Mardi Gras Caerdydd
Mae Cadeirydd Mardi Gras hoyw Caerdydd yn dweud bod angen i bobol hoyw fod yn fwy gweledol er mwyn hybu dealltwriaeth o’r gymuned hoyw o fewn cymdeithas.
Mae’r Mardi Gras yn cael ei chynnal am y degfed tro ar 1 Medi a dywed Richard Newton nad parti yn unig yw’r ŵyl a bod ganddi nod benodol.
“Mae angen parhau i ymgyrchu dros nifer o newidiadau,” meddai.
“Er bod aelodau’r gymuned Trawsrywiog, Hoyw a Lesbiaidd yn cael eu derbyn a’u gwarchod o dan nifer o ddeddfau, y gwir yw nad yw hyn yn digwydd o hyd yn ein cymunedau, yn y gweithle a hyd yn oed mewn rhai cartrefi.
“Thema Mardi Gras eleni yw bod gwelededd yn cynyddu dealltwriaeth ac yn lleihau ofn. Ein gobaith yw creu awyrgylch ble gall bobol deimlo’n falch o Gymru fel cenedl amrywiol.
“Mae hwn yn gyfle i Gymru gyfan i ddatgan bod gwahaniaethu, bwlian neu droseddu tuag at bobol ar sail eu rhywioldeb yn annerbyniol.”
Bydd y Mardi Gras yn cychwyn gyda gorymdaith trwy ganol Caerdydd a fydd yn arwain at faes y Mardi Gras ar gaeau Cooper.
Un o’r bobol fydd yn canu ar faes y Mardi Gras fydd Heather Small, prif leisydd M People a gafodd lwyddiant yn y 1990au.