Poster gwreiddiol ar gyfer 'Nyth yn y Nant'
Mae’r ŵyl gerddorol ‘Nyth yn y Nant’ wedi gorfod symud o Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn am fod y ganolfan yn ofni bod y digwyddiad yn “rhy fawr”, medd trefnwr yr ŵyl.
Dywedodd Gwyn Eiddior fod Nyth wedi cytuno ar drefniadau gyda Nant Gwrtheyrn “ychydig fisoedd yn ôl” ond fe benderfynodd y Nant ganslo’r digwyddiad wythnos yma.
“Roedd Nant Gwrtheyrn yn poeni, achos fod yr ŵyl yn denu cymaint o sylw, y byddai’n rhy fawr yn ystod penwythnos lle’r oedd pethau’n brysur yno’n barod,” meddai Gwyn Eiddior.
Mae’r ŵyl, sy’n arddangos celf a cherddoriaeth ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, 27 Awst, bellach wedi cael ei symud i neuadd Y Daflod yn Y Fic, Llithfaen.
Mae golwg360 yn disgwyl am ymateb gan Nant Gwrtheyrn.
‘Gwell hwyr na hwyrach’
“Gan fod ganddyn nhw gymaint o briodasau, roedden nhw’n teimlo nad oedden nhw’n gallu cadw pawb yn hapus,” ychwanegodd Gwyn Eiddior.
Er hynny, mae’n falch nad oedd Nant Gwrtheyrn wedi canslo’r digwyddiad yn nes at y diwrnod mawr. “Gwell hwyr na hwyrach am wn i,” meddai.
Dywedodd Gwyn Eiddior fod tocynnau a oedd wedi’u prynu ar gyfer ‘Nyth yn y Nant’ “dal yn gyfredol”, ond oherwydd y newid lleoliad, roedd yn rhaid mynd ati i newid enw’r digwyddiad hefyd.
“Nyth ddim cweit yn y Nant ydi’i enw fo am y tro!” ychwanegodd.
Ymhlith y rhai yn perfformio yno bydd Cowbois Rhos Botwnnog, Violas, Siddi, Blodau Gwylltion ac Osian Rhys.
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 4yh ddydd Llun. Tocynnau am £7.