Bu farw’r awdures Nina Bawden yn ei chartref yn Llundain heddiw. Roedd hi’n 87 oed.
Ysgrifennodd 48 o lyfrau, a’r un enwocaf o bosib oedd ‘Carrie’s War’ a oedd yn seiliedig ar ei phrofiad o fod yn faciwî yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Cafodd y llyfr ei gyhoeddi ym 1973 ac fe enillodd Wobr Phoenix ym 1993.
Damwain trên
Roedd un o’i llyfrau olaf, ‘Dear Austen’, wedi ei ysgrifennu ar ôl damwain trên Potter’s Bar yn 2002 – bu farw ei gŵr, Austen Kark, yn y ddamwain.
Cafodd Nina Bawden ei hanafu’n ddrwg yn y ddamwain hefyd.
Dywedodd ei mab, Robert Bawden, a llefarydd ar ran ei chwmni cyhoeddi, Virago, ei bod wedi marw’n dawel yng nghwmni ei theulu’r bore ma.