Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am Gymru ledled y byd drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ceisio annog pobl sy’n defnyddio’r safle rhwydweithio cymdeithasol, Twitter, i anfon negeseuon a chyfarchion Dydd Gwyl Dewi drwy ddefnyddio’r hashtag #dyddgwyldewi neu #stdavidsday a hynny mewn ymgais fyd-eang i godi proffil Cymru.
Y nod yw gwneud Dydd Gwyl Dewi yn un o’r pynciau Trydar mwyaf poblogaidd ledled y byd ar 1 Mawrth, a’i godi i frig rhestr y pynciau llosg ar y wefan.
Mae ‘Twibbon’ Dydd Gwyl Dewi hefyd wedi’i greu sy’n dangos baner Cymru a Chennin Pedr.
Bydd defnyddwyr safleoedd rhwydweithio Cymdeithasol megis Facebook a Twitter ddangos gymaint y maent yn caru Cymru drwy ychwanegu eicon twibbon i’w llun proffil.
“Mae Cwpan Ryder 2010 wedi codi ein proffil ledled y byd a rhaid i ni barhau i ddatblygu’r llwyddiant hwn,” meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.
“Mae cyfryngu cymdeithasol yn ein caniatáu ni i ddechrau sgwrs fyd-eang yn trafod bod yn Gymry a’n balchder ein bod yn Gymry ar ein diwrnod cenedlaethol.
“Rydyn ni am ddweud wrth y byd yr hyn sy’n gwneud Cymru yn wlad mor arbennig a phaham y dylent ymweld â hi!”
Trydar
“Cynlluniwyd yr ymgyrch Twitter er mwyn annog pobl i ddysgu mwy am Gymru drwy roi dolen i ymwelwyr at wefannau Wales.com a Chroeso Cymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad.
“Ers y dechrau, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi defnyddio Dydd Gwyl Dewi yn lwyfan ar gyfer codi ymwybyddiaeth am Gymru ar gyfer twristiaeth, addysg a mewnfuddsoddi.
“Bydd ymwelwyr â’r safleoedd yn gweld llawer o wybodaeth am ein treftadaeth, atyniadau ar gyfer ymwelwyr, bwyd a diwylliant.
“Bydd llwyddiant yr ymgyrch Dydd Gwyl Dewi ar Twitter yn dibynnu ar ddefnyddwyr Twitter yn defnyddio’r ‘hashtag’ a’r ‘Twibbon’, cael eu dilynwyr i wneud yr un peth ac ail-drydar eu negeseuon.
“Mae swyddfeydd Llywodraeth y Cynulliad dramor yn cymryd rhan drwy anfon negeseuon, neu ‘Drydar’, at bobl o Gymru sy’n byw ac yn gweithio dramor. Bydd nifer o gymdeithasau Cymraeg ledled y byd hefyd yn lledaenu gair am Ddydd Gwyl Dewi.”