Hunangofiant Meic Stephens
Bydd cyfres o ddyfyniadau o hunangofiant newydd Meic Stephens yn cael eu cyhoeddi’r ecsgliwsif ar Golwg360 dros y dyddiau nesaf.

Gan ddechrau yfory (Mawrth 28 Awst), bydd 5 o ddyfyniadau mwyaf diddorol ‘Cofnodion’ yn cael eu cyhoeddi’n ddyddiol, dim ond ar Golwg360.

Yn y rhan gyntaf o’r gyfres, bydd Meic Stephens yn trafod ei gyfeillgarwch â’r bardd a newyddiadurwr enwog Harri Webb.

Mae’n disgrifio ei gyfarfyddiad cyntaf â Webb yn yr Olde Arcade yng Nghaerdydd, a sut ei achubwyd rhag anaf difrifol gan beint o Guiness.

Mae’n datgelu hefyd ei farn ynglŷn â rhywioldeb y bardd.