Adroddiad Pearson - Carwyn Jones, Gwenda Thomas, Geoffrey Pearson
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi cynlluniau “radical” heddiw i ddiwygio’r drefn wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Mae adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu yn amlinellu cynlluniau’r llywodraeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol Cymru dros y ddegawd nesaf.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, fod “gwasanaethau cymdeithasol safonol yn hanfodol i lwyddiant Cymru”.
Mae’r cynlluniau yn cynnwys cyflwyno system o asesiadau trosglwyddadwy, fel nad oes angen ail asesu’r angen am ofal cymdeithasol i oedolion pan maen nhw’n symud.
Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn bwriadu sefydlu Asiantaeth Mabwysiadu Genedlaethol yn y gobaith y bydd rhagor o bobol yn mabwysiadu plant.
Mae’r cynllun hefyd yn argymell rhagor o gydweithio rhwng adrannau gwasanaethau cymdeithasol y 22 cyngor sir yng Nghymru.
“Mae angen i ni ganolbwyntio ar beth sydd wir yn bwysig er mwyn sicrhau fod pawb yn cyd-weithio ac yn gweithio mewn ffordd fwy effeithlon,” meddai Gwenda Thomas.
Daw’r adroddiad yn dilyn argymhellion a wnaed gan gomisiwn annibynnol y llynedd, dan arweiniad Geoffrey Pearson.
Roedd hwnnw’n galw am greu un system o asesu anghenion pobol trwy Gymru gyfan, ar ôl gweld bod amrywiaethau mawr rhwng safonau mewn gwahanol rannau o’r wlad.
Roedd hefyd eisiau i bobol allu mynd â’u hasesiad gyda nhw o le i le, heb orfod mynd trwy’r broses eto os oedden nhw’n symud.
Ymateb
Dywedodd llefarydd iechyd yr wrthblaid, yr Aelod Cynulliad Nick Ramsay, nad oedd yn cytuno gyda rhai rhannau o’r cynllun.
“Rydw i’n croesawu egwyddorion craidd y newidiadau sy’n cael eu hamlinellu, ond mae’r penderfyniad i dorri £5m o Wasanaethau Cymdeithasol y Plant a £3m o’r Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn mynd yn groes i ddibenion gweddill y cynllun.
“Dyw hi ddim yn amlwg sut y maen nhw’n gobeithio cyflawni bwriad y cynllun o ystyried eu blaenoriaethau cyllidebol.”