Tom Maynard
Mae Clwb Criced Surrey wedi cyflwyno cap anrhydeddus i deulu’r diweddar Tom Maynard ar noson gêm deyrnged iddo yn erbyn Morgannwg ar yr Oval.
Symudodd Tom i glwb Surrey o Forgannwg cyn dechrau tymor 2011.
Mae capiau fel arfer yn cael eu cyflwyno i chwaraewyr am eu cyfraniad i’r clwb tua dechrau eu gyrfa.
Cafodd ei gyflwyno gan gadeirydd y clwb, Richard Thompson i dad Tom, Matthew Maynard, sy’n gyn-gapten a chyn-hyfforddwr Morgannwg.
Derbyniodd grys Surrey hefyd, â rhif 55 ei fab ar y cefn.
Bu farw Tom, oedd yn 23 oed, ar gledrau trên tanddaearol yn Wimbledon ar Fehefin 18.
Cyrhaeddodd ei dad y cae ychydig cyn y gêm, ar ôl arwain criw o seiclwyr o Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd yn ystod taith ddeuddydd.
Yn cadw cwmni iddo ar y daith roedd cyn-chwaraewyr Morgannwg Steve James a Jamie Dalrymple, yn ogystal â chyn-seren Lloegr, Andrew Flintoff.
Teithiodd y criw i Newbury nos Lun ar gyfer sesiwn holi ac ateb gyda nifer o enwau adnabyddus o fyd y campau.
Ail-gychwynodd y daith fore Mawrth a chyrraedd yr Oval erbyn 3.20pm ar gyfer nifer o gyflwyniadau er cof am Tom cyn yr ornest.
Ymddiriedolaeth Tom Maynard
Yn lansiad swyddogol Ymddiriedolaeth Tom Maynard, fydd yn helpu cricedwyr a chwaraewyr o nifer o feysydd eraill i ddatblygu eu gyrfa, cafodd enwau tri o gricedwyr eu cyhoeddi brynhawn dydd Mawrth.
Cafodd cyfres o luniau o Tom eu dangos ar y sgrin fawr, a chân y Stereophonics, ‘Dakota’ yn chwarae yn y cefndir.
Safodd y dorf yn fuan wedyn ar gyfer munud o gymeradwyaeth iddo.
Y tri chwaraewr cyntaf i elwa o’r gronfa yw David Lloyd (Morgannwg), George Edwards a Matt Dunn (Surrey).
Mae’r gronfa eisoes wedi codi £20,000 ers i’r ymdrechion ddechrau fis diwethaf.