Mewn ychydig dros wythnos, fe fydd y Gweilch yn teithio i Treviso yn eu hymgyrch i amddiffyn eu teitl RaboDirect PRO12.

Mae capten y Gweilch wedi dweud y bydd y dasg yn un anodd ar ôl iddyn nhw ffarwelio â 11 o chwaraewyr y rhanbarth ers diwedd y tymor diwethaf.

Nid oes tîm wedi llwyddo eto i amddiffyn y teitl cefn wrth gefn, gan gynnwys y Gweilch sydd wedi ei ennill ar sawl achlysur.

‘‘Rydym wedi colli dau chwaraewr mawr i ni fel carfan, sef Shane Williams a Paul James, ac mae hynny’n golled fawr i ni.

“Rydym wedi bod yn agos yn y cystadlaethau Ewrop ar sawl achlysur ond yn dal i dangyflawni ein huchelgeisiau,’’ meddai Alun Wyn Jones, Capten y Gweilch.