Cafodd chwaraewr Arsenal ei arestio wythnos diwethaf ar amheuaeth o yrru’n beryglus – ychydig filltiroedd o gae ymarfer y clwb yn Llundain.

Mae’n debyg fod yr amddiffynnwr o Frasil, Andre Santos, wedi cael ei stopio gan yr heddlu am yrru’n afreolaidd.

Yn ôl adroddiadau ym mhapur newydd The Sun, roedd y car yn teithio ar gyflymdra o 130mya wrth gael ei gwrso gan yr heddlu.

Ni chafodd Andre Santos brawf anadl.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth i ddychwelyd yn ôl i orsaf heddlu yng ngogledd Llundain yng nghanol mis Medi.

Symudodd Andre Santos, sy’n 29 oed, i Arsenal o glwb Fernebache yn Nhwrci am £6.2m ym mis Awst y llynedd.